Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Hydref 2018
Amser:
09.30 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5114
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Bethan Sayed AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Siân Gwenllian AC Neil Hamilton AC Jane Hutt AC David Melding AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd y Gymraeg Nick Capaldi, Cyngor Celfyddydau Cymru Gwenith Price, Comisiynydd y Gymraeg Dyfan Sion, Director of Policy and Research, Comisiynydd y Gymraeg Gwyn Williams, Cyngor Celfyddydau Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Adam Vaughan (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Diolchodd y Cadeirydd i Neil Hamilton a Jack Sargeant am eu gwaith fel aelodau o'r Pwyllgor a chroesawodd Caroline Jones a Jane Hutt fel aelodau newydd yn eu lle.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd Gwenith Price i roi i'r Pwyllgor enwau'r ddau fwrdd iechyd sy’n cymryd 15 diwrnod ar gyfartaledd i ateb negeseuon e-bost Cymraeg, fel y cyfeiriwyd atynt yn Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18.
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
4.1 Derbyniodd Aelodau'r Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd aelodau'r Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y camau a ganlyn:
· Ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â nifer o faterion a godwyd yn ystod sesiwn Comisiynydd y Gymraeg; ac
· Ysgrifennu at Adran Llywodraeth y DU dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Phwyllgor Senedd y DU dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynglŷn â phwynt a godwyd yn ystod sesiwn Cyngor Celfyddydau Cymru o ran cyllid loteri.
6.1 Trafododd aelodau'r Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunwyd pwy i’w gwahodd i roi tystiolaeth lafar yn y sesiynau sy'n weddill ar gyfer yr ymchwiliad.